13 Rhwygwch eich calon, nid eich dillad,a dychwelwch at yr ARGLWYDD eich Duw.”Graslon a thrugarog yw ef,araf i ddigio, a mawr ei ffyddlondeb,ac yn edifar ganddo wneud niwed.
14 Pwy a ŵyr na thry a thosturio,a gadael bendith ar ei ôl—bwydoffrwm a diodoffrwm i'r ARGLWYDD eich Duw?
15 Canwch utgorn yn Seion,cyhoeddwch ympryd,galwch gymanfa,
16 cynullwch y bobl.Neilltuwch y gynulleidfa,cynullwch yr henuriaid,casglwch y plant,hyd yn oed y babanod.Doed y priodfab o'i ystafella'r briodferch o'i siambr.
17 Rhwng y porth a'r allorwyled yr offeiriaid, gweinidogion yr ARGLWYDD,a dweud, “Arbed dy bobl, O ARGLWYDD.Paid â gwneud dy etifeddiaeth yn warthac yn gyff gwawd ymysg y cenhedloedd.Pam y dywedir ymysg y bobloedd,‘Ple mae eu Duw?’ ”
18 Yna aeth yr ARGLWYDD yn eiddigeddus dros ei dir,a thrugarhau wrth ei bobl.
19 Atebodd yr ARGLWYDD a dweud wrth ei bobl,“Yr wyf yn anfon i chwi rawn a gwin ac olewnes eich digoni;ac ni wnaf chwi eto'n warth ymysg y cenhedloedd.