20 Symudaf y gelyn o'r gogledd ymhell oddi wrthych,a'i yrru i dir sych a diffaith,â'i reng flaen at fôr y dwyraina'i reng ôl at fôr y gorllewin;bydd ei arogl drwg a'i ddrewdod yn codi,am iddo ymorchestu.”
21 Paid ag ofni, ddaear;bydd lawen a gorfoledda,oherwydd fe wnaeth yr ARGLWYDD bethau mawrion.
22 Peidiwch ag ofni, anifeiliaid gwylltion,oherwydd bydd porfeydd yr anialwch yn wyrddlas;bydd y coed yn dwyn ffrwyth,a'r coed ffigys a'r gwinwydd yn rhoi eu cnwd yn helaeth.
23 Blant Seion, byddwch lawen,gorfoleddwch yn yr ARGLWYDD eich Duw;oherwydd rhydd ef ichwi law cynnar digonol;fe dywallt y glawogydd ichwi,y rhai cynnar a'r rhai diweddar fel o'r blaen.
24 Bydd y llawr dyrnu yn llawn o ŷda'r cafnau yn orlawn o win ac olew.
25 “Ad-dalaf ichwi am y blynyddoedda ddifaodd y locust ar ei dyfiant a'r locust mawr,y locust difaol a'r cyw locust,fy llu mawr, a anfonais i'ch mysg.”
26 “Fe fwytewch yn helaeth, nes eich digoni,a moliannu enw'r ARGLWYDD eich Duw,a wnaeth ryfeddod â chwi.Ni wneir fy mhobl yn waradwydd mwyach.