Jona 4 BCN

Dicter Jona a Thrugaredd Duw

1 Yr oedd Jona'n anfodlon iawn am hyn, a theimlai'n ddig.

2 Yna gweddïodd ar yr ARGLWYDD a dweud, “Yn awr, ARGLWYDD, onid hyn a ddywedais pan oeddwn gartref? Dyna pam yr achubais y blaen trwy ffoi i Tarsis. Gwyddwn dy fod yn Dduw graslon a thrugarog, araf i ddigio, mawr o dosturi ac yn edifar ganddo wneud niwed.

3 Yn awr, ARGLWYDD, cymer fy mywyd oddi arnaf; gwell gennyf farw na byw.”

4 Atebodd Duw, “A yw'n iawn iti deimlo'n ddig?”

5 Aeth Jona allan ac aros i'r dwyrain o'r ddinas. Gwnaeth gaban iddo'i hun yno, ac eistedd yn ei gysgod i weld beth a ddigwyddai i'r ddinas.

6 A threfnodd yr ARGLWYDD Dduw i blanhigyn dyfu dros Jona i fod yn gysgod dros ei ben ac i leddfu ei drallod; ac yr oedd Jona'n falch iawn o'r planhigyn.

7 Ond gyda'r wawr drannoeth, trefnodd Duw i bryfyn nychu'r planhigyn, nes iddo grino.

8 A phan gododd yr haul trefnodd Duw wynt poeth o'r dwyrain, ac yr oedd yr haul yn taro ar ben Jona nes iddo lewygu; gofynnodd am gael marw, a dweud, “Gwell gennyf farw na byw.”

9 A gofynnodd Duw i Jona, “A yw'n iawn iti deimlo'n ddig o achos y planhigyn?” Atebodd yntau, “Y mae'n iawn imi deimlo'n ddig hyd angau.”

10 Dywedodd Duw, “Yr wyt ti'n tosturio wrth blanhigyn na fuost yn llafurio gydag ef nac yn ei dyfu; mewn noson y daeth, ac mewn noson y darfu.

11 Oni thosturiaf finnau wrth Ninefe, y ddinas fawr, lle mae mwy na chant ac ugain o filoedd o bobl sydd heb wybod y gwahaniaeth rhwng y llaw chwith a'r llaw dde, heb sôn am lu o anifeiliaid?”

Penodau

1 2 3 4