Micha 1 BCN

1 Gair yr ARGLWYDD a ddaeth at Micha o Moreseth yn nyddiau Jotham, Ahas a Heseceia, brenhinoedd Jwda. Dyma'i weledigaethau am Samaria a Jerwsalem.

Barn ar Samaria a Jerwsalem

2 Gwrandewch, bobloedd, bawb ohonoch;clyw dithau, ddaear, a phopeth ynddi.Y mae'r Arglwydd DDUW, yr Arglwydd o'i deml sanctaidd,yn dyst yn eich erbyn.

3 Wele'r ARGLWYDD yn dod allan o'i drigfan,yn dod i lawr ac yn troedio ar uchelderau'r ddaear.

4 Y mae'r mynyddoedd yn toddi dano,a'r dyffrynnoedd yn hollti'n agored,fel cwyr o flaen tân,fel dyfroedd wedi eu tywallt ar oriwaered.

5 Am drosedd Jacob y mae hyn oll,ac am bechod tŷ Israel.Beth yw trosedd Jacob? Onid Samaria?Beth yw pechod tŷ Jwda? Onid Jerwsalem?

6 “Am hynny, gwnaf Samaria yn garnedd ar faes agored,yn lle i blannu gwinwydd;gwnaf i'w cherrig dreiglo i'r dyffryn,a dinoethaf ei sylfeini.

7 Malurir ei holl gerfddelwau,llosgir ei holl enillion yn y tân,a gwnaf ddifrod o'i delwau;o enillion puteindra y casglodd hwy,ac yn dâl puteindra y dychwelant.”

8 Am hyn y galaraf ac yr wylaf,a mynd yn noeth a heb esgidiau;galarnadaf fel y siacal,a llefain fel tylluanod yr anialwch,

9 am nad oes meddyginiaeth i'w chlwyf;oherwydd daeth hyd at Jwda,a chyrraedd at borth fy mhobl,hyd at Jerwsalem.

Y Gelyn yn Nesáu

10 Peidiwch â chyhoeddi'r peth yn Gath,a pheidiwch ag wylo yn Baca;yn Beth-affra ymdreiglwch yn y llwch.

11 Ewch ymlaen, drigolion Saffir;onid mewn noethni a chywilyddyr â trigolion Saanan allan?Galar sydd yn Beth-esel,a pheidiodd â bod yn gynhaliaeth i chwi.

12 Mewn gwewyr am newydd da y mae trigolion Maroth,oherwydd i ddrygioni oddi wrth yr ARGLWYDDddod hyd at borth Jerwsalem.

13 Harneisiwch y meirch wrth y cerbydau,drigolion Lachis;chwi oedd cychwyn pechod i ferch Seion,ac ynoch chwi y caed troseddau Israel.

14 Felly, rhodder anrheg ymadael i Moreseth-gath;y mae Beth-achsib yn dwyllodrus i frenhinoedd Israel.

15 Dygaf eto yr anrheithiwr at bobl Maresa,a bydd gogoniant Israel yn mynd i Adulam.

16 Eillia dy ben a gwna dy hun yn foel,am y plant a hoffaist;gwna dy hun yn foel fel eryr,am iddynt fynd oddi wrthyt i gaethglud.

Penodau

1 2 3 4 5 6 7