Micha 3 BCN

1 Yna dywedais,“Clywch, benaethiaid Jacob, arweinwyr tŷ Israel!Oni ddylech chwi wybod beth sy'n iawn?

2 Yr ydych yn casáu daioni ac yn caru drygioni,yn rhwygo'u croen oddi ar fy mhobl,a'u cnawd oddi ar eu hesgyrn;

3 yr ydych yn bwyta'u cnawd,yn blingo'u croen oddi amdanynt,yn dryllio'u hesgyrn,yn eu malu fel cnawd i badellac fel cig i grochan.

4 Yna fe waeddant ar yr ARGLWYDD,ond ni fydd yn eu hateb;bydd yn cuddio'i wyneb oddi wrthynt yr amser hwnnw,am fod eu gweithredoedd mor ddrygionus.”

5 Fel hyn y dywed yr ARGLWYDD am y proffwydisy'n arwain fy mhobl ar gyfeiliorn,y rhai os cânt rywbeth i'w fwytasy'n cyhoeddi heddwch,ond pan na rydd neb ddim iddyntsy'n cyhoeddi rhyfel yn ei erbyn:

6 “Am hyn bydd yn nos heb weledigaeth arnoch,ac yn dywyllwch heb ddim dewiniaeth;bydd yr haul yn machlud ar y proffwydi,a'r dydd yn tywyllu o'u cwmpas.”

7 Bydd y gweledyddion mewn gwartha'r dewiniaid mewn cywilydd;byddant i gyd yn gorchuddio'u genau,am nad oes ateb oddi wrth Dduw.

8 Ond amdanaf fi, rwy'n llawn grymac ysbryd yr ARGLWYDD, a chyfiawnder a nerth,i gyhoeddi ei drosedd i Jacob,a'i bechod i Israel.

9 Clywch hyn, benaethiaid Jacob, arweinwyr tŷ Israel,chwi sy'n casáu cyfiawnderac yn gwyrdroi pob uniondeb,

10 yn adeiladu Seion trwy dywallt gwaeda Jerwsalem trwy dwyll.

11 Y mae ei phenaethiaid yn barnu yn ôl y tâl,ei hoffeiriaid yn cyfarwyddo yn ôl y wobr,ei phroffwydi yn cyflwyno neges yn ôl yr arian;ac eto, pwysant ar yr ARGLWYDD, a dweud,“Onid yw'r ARGLWYDD yn ein mysg?Ni ddaw drwg arnom.”

12 Am hynny, o'ch achos chwibydd Seion yn faes wedi ei aredig,a Jerwsalem yn garneddau,a mynydd y deml yn fynydd-dir coediog.

Penodau

1 2 3 4 5 6 7