Micha 2 BCN

Tynged Gormeswyr y Tlawd

1 Gwae'r rhai sy'n dyfeisio niwed,ac yn llunio drygioni yn eu gwelyau,ac ar doriad dydd yn ei wneud,cyn gynted ag y bydd o fewn eu gallu.

2 Y maent yn chwenychu meysydd ac yn eu cipio,a thai, ac yn eu meddiannu;y maent yn treisio perchennog a'i dŷ,dyn a'i etifeddiaeth.

3 Felly, fel hyn y dywed yr ARGLWYDD:“Wele fi'n dyfeisio yn erbyn y tylwyth hwn y fath ddrwgna all eich gwarrau ei osgoi;ni fyddwch yn cerdded yn dorsyth,oherwydd bydd yn amser drwg.

4 Yn y dydd hwnnw, gwneir dychan ohonoch,a chenir galargan chwerw a dweud,‘Yr ydym wedi'n difa'n llwyr;y mae cyfran fy mhobl yn newid dwylo.Sut y gall neb adfer i miein meysydd sydd wedi eu rhannu?’ ”

5 Am hyn, ni bydd neb i fesur i ti trwy fwrw coelbrenyng nghynulleidfa'r ARGLWYDD.

Ymryson â'r Gau Broffwydi

6 Fel hyn y proffwydant: “Peidiwch â phroffwydo;peidied neb â phroffwydo am hyn;ni ddaw cywilydd arnom.

7 A ddywedir hyn am dŷ Jacob?A yw'r ARGLWYDD yn ddiamynedd?Ai ei waith ef yw hyn?Onid yw fy ngeiriau'n gwneud daionii'r sawl sy'n cerdded yn uniawn?

8 ‘Ond yr ydych chwi'n codi yn erbyn fy mhobl fel gelynyn cipio ymaith fantell yr heddychol,ac yn dwyn dinistr rhyfel ar y rhai sy'n rhodio'n ddiofal.

9 Yr ydych yn troi gwragedd fy mhobl o'u tai dymunol,ac yn dwyn eu llety oddi ar eu plant am byth.

10 Codwch! Ewch! Nid oes yma orffwysfa i chwi,oherwydd yr aflendid sy'n dinistrio â dinistr creulon.

11 Pe byddai rhywun mewn ysbryd twyll a chelwydd yn dweud,“Proffwydaf i chwi am win a diod gadarn”,’câi fod yn broffwyd i'r bobl hyn.”

12 “Yn wir, fe gasglaf y cyfan ohonot, Jacob,a chynullaf ynghyd weddill Israel;gosodaf hwy gyda'i gilydd, fel defaid Bosra,fel diadell yn ei phorfa yn tyrru o Edom.

13 Fe â'r un a agorodd y bwlch i fyny o'u blaen;torrant hwythau trwy'r porth a rhuthro allan. eu brenin o'u blaenau,a bydd yr ARGLWYDD yn eu harwain.”

Penodau

1 2 3 4 5 6 7