Micha 4 BCN

Yr ARGLWYDD yn Teyrnasu mewn Heddwch

1 Yn y dyddiau diwethaf bydd mynydd tŷ'r ARGLWYDDwedi ei osod ar ben y mynyddoeddac yn uwch na'r bryniau.Dylifa'r bobloedd ato,

2 a daw cenhedloedd lawer, a dweud,“Dewch, esgynnwn i fynydd yr ARGLWYDD,i deml Duw Jacob,er mwyn iddo ddysgu inni ei ffyrddac i ninnau rodio yn ei lwybrau.”Oherwydd o Seion y daw'r gyfraith,a gair yr ARGLWYDD o Jerwsalem.

3 Bydd ef yn barnu rhwng cenhedloedd,ac yn torri'r ddadl i bobloedd cryfion o bell;byddant hwy'n curo'u cleddyfau'n geibiau,a'u gwaywffyn yn grymanau.Ni chyfyd cenedl gleddyf yn erbyn cenedl,ac ni ddysgant ryfel mwyach;

4 a bydd pob un yn eistedd dan ei winwyddena than ei ffigysbren, heb neb i'w ddychryn.Oherwydd genau ARGLWYDD y Lluoedd a lefarodd.

5 Rhodia pob un o'r cenhedloedd yn enw ei duw,ac fe rodiwn ninnau yn enw'r ARGLWYDD ein Duw dros byth.

Adferiad Israel

6 “Yn y dydd hwnnw,” medd yr ARGLWYDD,“fe gasglaf y cloff,a chynnull y rhai a wasgarwyda'r rhai a gosbais;

7 a gwnaf weddill o'r cloff,a chenedl gref o'r gwasgaredig,a theyrnasa'r ARGLWYDD drostynt ym Mynydd Seionyn awr a hyd byth.

8 A thithau, tŵr y ddiadell, mynydd merch Seion,i ti y daw, ie, y daw y llywodraeth a fu,y frenhiniaeth i ferch Jerwsalem.”

Ymryson Arall â'r Gau Broffwydi

9 “Pam yn awr yr wyt yn llefain yn uchel?Onid oes gennyt frenin?A yw dy gynghorwyr wedi darfod,nes bod poenau, fel gwewyr gwraig yn esgor, wedi cydio ynot?”

10 “Gwinga a gwaedda, ferch Seion,fel gwraig yn esgor,oherwydd yn awr byddi'n mynd o'r ddinasac yn byw yn y maes agored;byddi'n mynd i Fabilon.Yno fe'th waredir;yno bydd yr ARGLWYDD yn dy achubo law d'elynion.”

11 “Yn awr y mae llawer o genhedloeddwedi ymgasglu yn dy erbyn,ac yn dweud, ‘Haloger hi,a chaed ein llygaid weld eu dymuniad ar Seion.’

12 Ond nid ydynt hwy'n gwybod meddyliau'r ARGLWYDD,nac yn deall ei fwriad,oherwydd y mae ef wedi eu casglu fel ysgubau i'r llawr dyrnu.

13 Cod i ddyrnu, ferch Seion,oherwydd gwnaf dy gorn o haearna'th garnau o bres,ac fe fethri bobloedd lawer;yn ddiofryd i'r ARGLWYDD y gwneir eu helw,a'u cyfoeth i Arglwydd yr holl ddaear.”

Penodau

1 2 3 4 5 6 7