14 Yr wyf yn diolch i Dduw na fedyddiais i neb ohonoch ond Crispus a Gaius;
15 peidied neb â dweud i chwi gael eich bedyddio i'm henw i.
16 O do, mi fedyddiais deulu Steffanas hefyd. Heblaw hynny, ni wn a fedyddiais i neb arall.
17 Nid i fedyddio yr anfonodd Crist fi, ond i bregethu'r Efengyl, a hynny nid â doethineb geiriau, rhag i groes Crist golli ei grym.
18 Oblegid y gair am y groes, ffolineb yw i'r rhai sydd ar lwybr colledigaeth, ond i ni sydd ar lwybr iachawdwriaeth, gallu Duw ydyw.
19 Y mae'n ysgrifenedig:“Dinistriaf ddoethineb y doethion,A dileaf ddeall y deallus.”
20 Pa le y mae'r un doeth? Pa le y mae'r un dysgedig? Pa le y mae ymresymydd yr oes bresennol? Oni wnaeth Duw ddoethineb y byd yn ffolineb?