1 Corinthiaid 4 BCN

Gweinidogaeth yr Apostolion

1 Bydded i bob un ein cyfrif ni fel gweision Crist a goruchwylwyr dirgelion Duw.

2 Yn awr, yr hyn a ddisgwylir mewn goruchwylwyr yw eu cael yn ffyddlon.

3 O'm rhan fy hun, peth bach iawn yw cael fy ngosod ar brawf gennych chwi, neu gan unrhyw lys dynol. Yn wir, nid wyf yn eistedd mewn barn arnaf fy hun.

4 Nid oes gennyf ddim ar fy nghydwybod, ond nid wyf drwy hynny wedi fy nghael yn ddieuog. Yr Arglwydd yw fy marnwr i.

5 Felly peidiwch â barnu dim cyn yr amser, nes i'r Arglwydd ddod; bydd ef yn goleuo pethau cudd y tywyllwch ac yn gwneud bwriadau'r galon yn amlwg. Ac yna caiff pob un ei glod gan Dduw.

6 Yr wyf wedi cymhwyso'r pethau hyn, gyfeillion, ataf fi fy hun ac at Apolos er eich mwyn chwi, ichwi ddysgu, drwom ni, “gadw o fewn yr hyn a ysgrifennwyd”, rhag i neb ohonoch ymchwyddo wrth bleidio un a gwrthod y llall.

7 Pwy sy'n rhoi rhagoriaeth i ti? Beth sydd gennyt, nad wyt wedi ei dderbyn? Ac os ei dderbyn a wnaethost, pam yr wyt yn ymffrostio fel pe bait heb dderbyn?

8 Dyma chwi eisoes wedi cael eich gwala; eisoes wedi dod yn gyfoethog; wedi etifeddu eich teyrnas, a hynny hebom ni! Gwyn fyd na fyddech wedi etifeddu eich teyrnas mewn gwirionedd, er mwyn i ninnau hefyd gael teyrnasu gyda chwi!

9 Oherwydd yr wyf yn tybio bod Duw wedi rhoi i ni'r apostolion y lle olaf, fel rhai wedi eu condemnio i farw yn yr arena, gan ein bod wedi dod yn sioe i'r cyfanfyd, i angylion ac i feidrolion.

10 Ni yn ffyliaid er mwyn Crist, chwithau'n rhai call yng Nghrist! Ni yn wan, chwithau'n gryf! Chwi'n llawn anrhydedd, ninnau heb ddim parch!

11 Hyd yr awr hon y mae arnom newyn a syched, yr ydym yn noeth, yn cael ein cernodio, yn ddigartref,

12 yn blino gan lafur ein dwylo ein hunain. Ein hateb i'r difenwi sydd arnom yw bendithio; i'r erlid, goddef;

13 i'r enllib, geiriau caredig. Fe'n gwnaethpwyd yn garthion y byd, yn olchion pawb, hyd yn awr.

14 Nid i godi cywilydd arnoch yr wyf yn ysgrifennu hyn, ond i'ch rhybuddio, fel plant annwyl i mi.

15 Pe byddai gennych ddeng mil o hyfforddwyr yng Nghrist, eto ni fyddai gennych fwy nag un tad, oherwydd yng Nghrist Iesu myfi a ddeuthum yn dad i chwi drwy'r Efengyl.

16 Am hynny yr wyf yn erfyn arnoch, byddwch efelychwyr ohonof fi.

17 Dyma pam yr anfonais Timotheus atoch; y mae ef yn fab annwyl i mi, ac yn ffyddlon yn yr Arglwydd, a bydd yn dwyn ar gof i chwi fy ffyrdd i yng Nghrist Iesu, fel y byddaf yn eu dysgu ym mhobman, ym mhob eglwys.

18 Y mae rhai wedi ymchwyddo, fel pe na bawn i am ddod atoch.

19 Ond yr wyf am ddod atoch ar fyrder, os caniatâ'r Arglwydd, a chaf wybod, nid am siarad y rhai sydd wedi ymchwyddo, ond am eu gallu.

20 Oherwydd nid mewn siarad y mae teyrnas Dduw, ond mewn gallu.

21 Beth yw eich dewis? Ai â gwialen yr wyf i ddod atoch, ynteu â chariad, ac ysbryd addfwynder?

Penodau

1 2 3 4 5 6 7 8 9 10 11 12 13 14 15 16