1 Corinthiaid 10 BCN

Rhybudd Rhag Eilunaddoliaeth

1 Yr wyf am i chwi wybod, fy nghyfeillion, i'n hynafiaid i gyd fod dan y cwmwl, iddynt i gyd fynd drwy'r môr,

2 iddynt i gyd gael eu bedyddio i Moses yn y cwmwl ac yn y môr,

3 iddynt i gyd fwyta'r un bwyd ysbrydol

4 ac yfed yr un ddiod ysbrydol; oherwydd yr oeddent yn yfed o'r graig ysbrydol oedd yn eu dilyn. A Christ oedd y graig honno.

5 Eto nid oedd y rhan fwyaf ohonynt wrth fodd Duw; oherwydd fe'u gwasgarwyd hwy'n gyrff yn yr anialwch.

6 Digwyddodd y pethau hyn yn esiamplau i ni, i'n rhybuddio rhag chwenychu pethau drwg, fel y gwnaethant hwy.

7 Peidiwch â bod yn eilunaddolwyr, fel rhai ohonynt hwy; fel y mae'n ysgrifenedig, “Eisteddodd y bobl i fwyta ac yfed, a chodi i gyfeddach.”

8 Peidiwn chwaith â chyflawni anfoesoldeb rhywiol, fel y gwnaeth rhai ohonynt hwy—a syrthiodd tair mil ar hugain mewn un diwrnod.

9 Peidiwn â gosod Crist ar ei brawf, fel y gwnaeth rhai ohonynt hwy—ac fe'u difethwyd gan seirff.

10 Peidiwch â grwgnach, fel y gwnaeth rhai ohonynt hwy—ac fe'u difethwyd gan y Dinistrydd.

11 Yn awr, digwyddodd y pethau hyn iddynt hwy fel esiamplau, ac fe'u hysgrifennwyd fel rhybudd i ni, rhai y daeth terfyn yr oesoedd arnom.

12 Felly, bydded i'r sawl sy'n tybio ei fod yn sefyll, wylio rhag iddo syrthio.

13 Nid oes un prawf wedi dod ar eich gwarthaf nad yw'n gyffredin i bawb. Y mae Duw'n ffyddlon, ac ni fydd ef yn gadael ichwi gael eich profi y tu hwnt i'ch gallu; yn wir, gyda'r prawf, fe rydd ef ddihangfa hefyd, a'ch galluogi i ymgynnal dano.

14 Felly, fy nghyfeillion annwyl, ffowch oddi wrth eilunaddoliaeth.

15 Yr wyf yn siarad â chwi fel pobl synhwyrol; barnwch chwi'r hyn yr wyf yn ei ddweud.

16 Cwpan y fendith yr ydym yn ei fendithio, onid cyfranogiad o waed Crist ydyw? A'r bara yr ydym yn ei dorri, onid cyfranogiad o gorff Crist ydyw?

17 Gan mai un yw'r bara, yr ydym ni, a ninnau'n llawer, yn un corff, oherwydd yr ydym i gyd yn cyfranogi o'r un bara.

18 Edrychwch ar yr Israel hanesyddol. Onid yw'r rhai sy'n bwyta'r ebyrth yn gyfranogion o'r allor?

19 Beth, felly, yr wyf yn ei ddweud? Bod bwyd sydd wedi ei aberthu i eilunod yn rhywbeth? Neu fod eilun yn rhywbeth?

20 Nage, ond mai i gythreuliaid, ac nid i Dduw, y maent yn aberthu eu hebyrth, ac na fynnwn i chwi fod yn gyfranogion o gythreuliaid.

21 Ni allwch yfed cwpan yr Arglwydd a chwpan cythreuliaid; ni allwch gyfranogi o fwrdd yr Arglwydd ac o fwrdd cythreuliaid.

22 A ydym yn mynnu cyffroi eiddigedd yr Arglwydd? A ydym yn gryfach nag ef?

Gwnewch Bopeth er Gogoniant Duw

23 “Y mae popeth yn gyfreithlon,” meddwch; ond nid yw popeth er lles. “Y mae popeth yn gyfreithlon,” meddwch; ond nid yw popeth yn adeiladu.

24 Peidied neb â cheisio'i les ei hun, ond lles ei gymydog.

25 Bwytewch bopeth a werthir yn y farchnad gig, heb holi'n fanwl yn ei gylch ar dir cydwybod.

26 Oherwydd eiddo'r Arglwydd yw'r ddaear a'i llawnder.

27 Os cewch wahoddiad gan anghredadun, ac os oes awydd arnoch fynd, bwytewch bopeth a osodir ger eich bron, heb holi'n fanwl yn ei gylch ar dir cydwybod.

28 Ond os dywed rhywun wrthych, “Peth wedi ei offrymu yn aberth yw hwn”, peidiwch â'i fwyta, er mwyn y sawl a alwodd eich sylw at y peth, ac er mwyn cydwybod;

29 nid eich cydwybod chwi yr wyf yn ei olygu, ond cydwybod y llall. Pam, yn wir, y mae fy rhyddid i yn cael ei farnu gan gydwybod rhywun arall?

30 Os wyf fi'n cymryd fy mwyd â diolch, pam y ceir bai arnaf ar gyfrif bwyd yr wyf yn diolch i Dduw amdano?

31 Felly, beth bynnag a wnewch, p'run ai bwyta, neu yfed, neu unrhyw beth arall, gwnewch bopeth er gogoniant Duw.

32 Peidiwch â bod yn achos tramgwydd i'r Iddewon na'r Groegiaid, nac i eglwys Dduw.

Penodau

1 2 3 4 5 6 7 8 9 10 11 12 13 14 15 16