12 Felly, bydded i'r sawl sy'n tybio ei fod yn sefyll, wylio rhag iddo syrthio.
13 Nid oes un prawf wedi dod ar eich gwarthaf nad yw'n gyffredin i bawb. Y mae Duw'n ffyddlon, ac ni fydd ef yn gadael ichwi gael eich profi y tu hwnt i'ch gallu; yn wir, gyda'r prawf, fe rydd ef ddihangfa hefyd, a'ch galluogi i ymgynnal dano.
14 Felly, fy nghyfeillion annwyl, ffowch oddi wrth eilunaddoliaeth.
15 Yr wyf yn siarad â chwi fel pobl synhwyrol; barnwch chwi'r hyn yr wyf yn ei ddweud.
16 Cwpan y fendith yr ydym yn ei fendithio, onid cyfranogiad o waed Crist ydyw? A'r bara yr ydym yn ei dorri, onid cyfranogiad o gorff Crist ydyw?
17 Gan mai un yw'r bara, yr ydym ni, a ninnau'n llawer, yn un corff, oherwydd yr ydym i gyd yn cyfranogi o'r un bara.
18 Edrychwch ar yr Israel hanesyddol. Onid yw'r rhai sy'n bwyta'r ebyrth yn gyfranogion o'r allor?