1 Byddwch yn efelychwyr ohonof fi, fel yr wyf finnau o Grist.
2 Yr wyf yn eich canmol chwi am eich bod yn fy nghofio ym mhob peth, ac yn cadw'r traddodiadau fel y traddodais hwy ichwi.
3 Ond yr wyf am ichwi wybod mai pen pob gŵr yw Crist, ac mai pen y wraig yw'r gŵr, ac mai pen Crist yw Duw.
4 Y mae pob gŵr sy'n gweddïo neu'n proffwydo â rhywbeth am ei ben yn gwaradwyddo'i ben.
5 Ond y mae pob gwraig sy'n gweddïo neu'n proffwydo heb orchudd ar ei phen yn gwaradwyddo'i phen; y mae hi'n union fel merch sydd wedi ei heillio.
6 Oherwydd os yw gwraig heb orchuddio'i phen, yna fe ddylai hi dorri ei gwallt yn llwyr. Ond os yw'n waradwydd i wraig dorri ei gwallt neu eillio ei phen, fe ddylai hi wisgo gorchudd.