18 Yn gyntaf, pan fyddwch yn ymgynnull fel eglwys, yr wyf yn clywed bod ymraniadau yn eich plith, ac rwy'n credu bod peth gwir yn hyn.
19 Oherwydd y mae pleidiau yn eich plith yn anghenraid, er mwyn i'r rhai dilys yn eich mysg ddod i'r golwg.
20 Felly, pan fyddwch yn ymgynnull, nid swper yr Arglwydd y byddwch yn ei fwyta,
21 oherwydd yn y bwyta y mae pob un yn rhuthro i gymryd ei swper ei hun, ac y mae eisiau bwyd ar un, ac un arall yn feddw.
22 Onid oes gennych dai i fwyta ac yfed ynddynt? Neu a ydych yn mynnu dirmygu eglwys Dduw, a pheri cywilydd i'r rhai sydd heb ddim? Beth a ddywedaf wrthych? A wyf i'ch canmol? Yn hyn o beth, nid wyf yn eich canmol.
23 Oherwydd fe dderbyniais i oddi wrth yr Arglwydd yr hyn hefyd a draddodais i chwi: i'r Arglwydd Iesu, y nos y bradychwyd ef, gymryd bara;
24 ac wedi iddo ddiolch, fe'i torrodd, a dweud, “Hwn yw fy nghorff, sydd er eich mwyn chwi. Gwnewch hyn er cof amdanaf.”