7 Ni ddylai gŵr orchuddio'i ben, ac yntau ar ddelw Duw ac yn ddrych o'i ogoniant ef. Ond drych o ogoniant y gŵr yw'r wraig.
8 Oherwydd nid y gŵr a ddaeth o'r wraig, ond y wraig o'r gŵr.
9 Ac ni chrewyd y gŵr er mwyn y wraig, ond y wraig er mwyn y gŵr.
10 Am hynny, dylai'r wraig gael arwydd awdurdod ar ei phen, o achos yr angylion.
11 Beth bynnag am hynny, yn yr Arglwydd y mae'r gŵr yn angenrheidiol i'r wraig a'r wraig yn angenrheidiol i'r gŵr.
12 Oherwydd fel y daeth y wraig o'r gŵr, felly hefyd y daw'r gŵr drwy'r wraig. A daw'r cwbl o Dduw.
13 Barnwch drosoch eich hunain: a yw'n weddus i wraig weddïo ar Dduw heb orchudd ar ei phen?