4 Y mae amrywiaeth doniau, ond yr un Ysbryd sy'n eu rhoi;
5 ac y mae amrywiaeth gweinidogaethau, ond yr un Arglwydd sy'n eu rhoi;
6 ac y mae amrywiaeth gweithrediadau, ond yr un Duw sydd yn gweithredu pob peth ym mhawb.
7 Rhoddir amlygiad o'r Ysbryd i bob un, er lles pawb.
8 Oherwydd fe roddir i un, trwy'r Ysbryd, lefaru doethineb; i un arall, lefaru gwybodaeth, yn ôl yr un Ysbryd;
9 i un arall rhoddir ffydd, trwy'r un Ysbryd; i un arall ddoniau iacháu, trwy'r un Ysbryd;
10 i un arall gyflawni gwyrthiau, i un arall broffwydo, i un arall wahaniaethu rhwng ysbrydoedd, i un arall lefaru â thafodau, i un arall ddehongli tafodau.