26 Beth amdani, ynteu, gyfeillion? Pan fyddwch yn ymgynnull, bydd gan bob un ei salm, ei air o hyfforddiant, ei ddatguddiad, ei lefaru â thafodau, ei ddehongliad. Gadewch i bob peth fod er adeiladaeth.
27 Os oes rhywun yn llefaru â thafodau, bydded i ddau yn unig, neu dri ar y mwyaf, lefaru, a phob un yn ei dro; a bydded i rywun ddehongli.
28 Os nad oes dehonglydd yn bresennol, bydded y llefarydd yn ddistaw yn y gynulleidfa, a llefaru wrtho'i hun ac wrth Dduw.
29 Dim ond dau neu dri o'r proffwydi sydd i lefaru, a'r lleill i bwyso'r neges.
30 Os daw datguddiad i rywun arall sy'n eistedd gerllaw, bydded i'r proffwyd sy'n llefaru dewi.
31 Oherwydd gall pawb ohonoch broffwydo, bob yn un, er mwyn i bawb gael addysg a chysur.
32 Ac y mae ysbryd pob proffwyd yn ddarostyngedig i'r proffwyd.