9 Felly chwithau: wrth lefaru â thafodau, os na thraethwch air y gellir ei ddeall, pa fodd y gall neb wybod beth a ddywedir? Malu awyr y byddwch.
10 Mor niferus yw'r mathau o ieithoedd sydd yn y byd! Ac nid oes unman heb iaith.
11 Ond os nad wyf yn deall ystyr y siaradwr, byddaf yn farbariad aflafar iddo, ac yntau i minnau.
12 Gan eich bod chwi, felly, a'ch bryd ar ddoniau'r Ysbryd, ceisiwch gyflawnder o'r rhai sy'n adeiladu'r eglwys.
13 Felly, bydded i'r sawl sy'n llefaru â thafodau weddïo am y gallu i ddehongli.
14 Oherwydd os byddaf yn gweddïo â thafodau, y mae fy ysbryd yn gweddïo, ond y mae fy meddwl yn ddiffrwyth.
15 Beth a wnaf, felly? Mi weddïaf â'm hysbryd, ond mi weddïaf â'm deall hefyd. Mi ganaf â'r ysbryd, ond mi ganaf â'r deall hefyd.