1 Yr wyf am eich atgoffa, gyfeillion, am yr Efengyl a bregethais i chwi ac a dderbyniasoch chwithau, yr Efengyl sydd yn sylfaen eich bywyd
2 ac yn foddion eich iachawdwriaeth. A ydych yn dal i lynu wrth yr hyn a bregethais? Onid e, yn ofer y credasoch.
3 Oherwydd, yn y lle cyntaf, traddodais i chwi yr hyn a dderbyniais: i Grist farw dros ein pechodau ni, yn ôl yr Ysgrythurau;
4 iddo gael ei gladdu, a'i gyfodi y trydydd dydd, yn ôl yr Ysgrythurau;
5 ac iddo ymddangos i Ceffas, ac yna i'r Deuddeg.
6 Yna, ymddangosodd i fwy na phum cant o'i ddilynwyr ar unwaith—ac y mae'r mwyafrif ohonynt yn fyw hyd heddiw, er bod rhai wedi huno.
7 Yna, ymddangosodd i Iago, yna i'r holl apostolion.