27 Oherwydd, yng ngeiriau'r Ysgrythur, “darostyngodd bob peth dan ei draed ef.” Ond pan yw'n dweud bod pob peth wedi ei ddarostwng, y mae'n amlwg nad yw hyn yn cynnwys Duw, yr un sydd wedi darostwng pob peth iddo ef.
28 Ond pan fydd pob peth wedi ei ddarostwng i'r Mab, yna fe ddarostyngir y Mab yntau i'r hwn a ddarostyngodd bob peth iddo ef, ac felly Duw fydd oll yn oll.
29 Os nad oes atgyfodiad, beth a wna'r rhai hynny a fedyddir dros y meirw? Os nad yw'r meirw'n cael eu cyfodi o gwbl, i ba bwrpas y bedyddir hwy drostynt?
30 Ac i ba ddiben yr ydym ninnau hefyd mewn perygl bob awr?
31 Yr wyf yn marw beunydd! Y mae hyn cyn wired â bod gennyf ymffrost ynoch, gyfeillion, yng Nghrist Iesu ein Harglwydd.
32 Os fel dyn cyffredin yr ymleddais â bwystfilod yn Effesus, pa elw fyddai hyn imi? Os na chyfodir y meirw,“Gadewch inni fwyta ac yfed,canys yfory byddwn farw.”
33 Peidiwch â chymryd eich camarwain:“Y mae cwmni drwg yn llygru cymeriad da.”