29 Os nad oes atgyfodiad, beth a wna'r rhai hynny a fedyddir dros y meirw? Os nad yw'r meirw'n cael eu cyfodi o gwbl, i ba bwrpas y bedyddir hwy drostynt?
30 Ac i ba ddiben yr ydym ninnau hefyd mewn perygl bob awr?
31 Yr wyf yn marw beunydd! Y mae hyn cyn wired â bod gennyf ymffrost ynoch, gyfeillion, yng Nghrist Iesu ein Harglwydd.
32 Os fel dyn cyffredin yr ymleddais â bwystfilod yn Effesus, pa elw fyddai hyn imi? Os na chyfodir y meirw,“Gadewch inni fwyta ac yfed,canys yfory byddwn farw.”
33 Peidiwch â chymryd eich camarwain:“Y mae cwmni drwg yn llygru cymeriad da.”
34 Deffrowch i'ch iawn bwyll, a chefnwch ar bechod. Oherwydd y mae rhai na wyddant ddim am Dduw. I godi cywilydd arnoch yr wyf yn dweud hyn.
35 Ond bydd rhywun yn dweud: “Pa fodd y mae'r meirw'n cael eu cyfodi? Â pha fath gorff y byddant yn dod?”