39 Oherwydd nid yr un cnawd yw pob cnawd, ond un peth yw cnawd dynion, peth arall yw cnawd anifeiliaid, peth arall yw cnawd adar, a pheth arall yw cnawd pysgod.
40 Y mae hefyd gyrff nefol a chyrff daearol, ond un peth yw gogoniant y rhai nefol, a pheth gwahanol yw gogoniant y rhai daearol.
41 Un peth yw gogoniant yr haul, a pheth arall yw gogoniant y lloer, a pheth arall yw gogoniant y sêr. Yn wir, y mae rhagor rhwng seren a seren mewn gogoniant.
42 Felly hefyd y bydd gyda golwg ar atgyfodiad y meirw. Heuir mewn llygredigaeth, cyfodir mewn anllygredigaeth.
43 Heuir mewn gwaradwydd, cyfodir mewn gogoniant. Heuir mewn gwendid, cyfodir mewn nerth. Yn gorff anianol yr heuir ef, yn gorff ysbrydol y cyfodir ef.
44 Os oes corff anianol, y mae hefyd gorff ysbrydol.
45 Felly, yn wir, y mae'n ysgrifenedig: “Daeth y dyn cyntaf, Adda, yn fod byw.” Ond daeth yr Adda diwethaf yn ysbryd sydd yn rhoi bywyd.