43 Heuir mewn gwaradwydd, cyfodir mewn gogoniant. Heuir mewn gwendid, cyfodir mewn nerth. Yn gorff anianol yr heuir ef, yn gorff ysbrydol y cyfodir ef.
44 Os oes corff anianol, y mae hefyd gorff ysbrydol.
45 Felly, yn wir, y mae'n ysgrifenedig: “Daeth y dyn cyntaf, Adda, yn fod byw.” Ond daeth yr Adda diwethaf yn ysbryd sydd yn rhoi bywyd.
46 Eithr nid yr ysbrydol sy'n dod gyntaf, ond yr anianol, ac yna'r ysbrydol.
47 Y dyn cyntaf, o'r ddaear y mae, a llwch ydyw; ond yr ail ddyn, o'r nef y mae.
48 Y mae'r rhai sydd o'r llwch yn debyg i'r dyn o'r llwch, ac y mae'r rhai sydd o'r nef yn debyg i'r dyn o'r nef.
49 Ac fel y bu delw'r dyn o'r llwch arnom, felly hefyd y bydd delw'r dyn o'r nef arnom.