2 Oni wyddoch mai'r saint sydd i farnu'r byd? Ac os yw'r byd yn cael ei farnu gennych chwi, a ydych yn anghymwys i farnu'r achosion lleiaf?
3 Oni wyddoch y byddwn yn barnu angylion, heb sôn am bethau'r bywyd hwn?
4 Felly, os bydd gennych achosion fel hyn, a ydych yn gosod yn farnwyr y rhai sydd isaf eu parch yng ngolwg yr eglwys?
5 I godi cywilydd arnoch yr wyf yn dweud hyn. A yw wedi dod i hyn, nad oes neb doeth yn eich plith fydd yn gallu barnu rhwng cydgredinwyr?
6 A yw credinwyr yn mynd i gyfraith â'i gilydd, a hynny gerbron anghredinwyr?
7 Yn gymaint â'ch bod yn ymgyfreithio o gwbl â'ch gilydd, yr ydych eisoes, yn wir, wedi colli'r dydd. Pam, yn hytrach, na oddefwch gam? Pam, yn hytrach, na oddefwch golled?
8 Ond gwneud cam yr ydych chwi, peri colled yr ydych, a hynny i gydgredinwyr.