10 I'r rhai sydd wedi priodi yr wyf fi'n gorchymyn—na, nid fi, ond yr Arglwydd—nad yw'r wraig i ymadael â'i gŵr;
11 ond os bydd iddi ymadael, dylai aros yn ddibriod, neu gymodi â'i gŵr. A pheidied y gŵr ag ysgaru ei wraig.
12 Wrth y lleill yr wyf fi, nid yr Arglwydd, yn dweud: os bydd gan Gristion wraig ddi-gred, a hithau'n cytuno i fyw gydag ef, ni ddylai ei hysgaru.
13 Ac os bydd gan wraig ŵr di-gred, ac yntau'n cytuno i fyw gyda hi, ni ddylai ysgaru ei gŵr.
14 Oherwydd y mae'r gŵr di-gred wedi ei gysegru trwy ei wraig, a'r wraig ddi-gred wedi ei chysegru trwy ei gŵr o Gristion. Onid e, byddai eich plant yn halogedig. Ond fel y mae, y maent yn sanctaidd.
15 Ond os yw'r anghredadun am ymadael, gadewch i hwnnw neu honno fynd. Nid yw'r gŵr na'r wraig o Gristion, mewn achos felly, yn gaeth; i heddwch y mae Duw wedi eich galw.
16 Oherwydd sut y gwyddost, wraig, nad achubi di dy ŵr? Neu sut y gwyddost, ŵr, nad achubi di dy wraig?