26 Yn fy meddwl i, peth da, yn wyneb yr argyfwng sydd yn pwyso arnom, yw i bob un aros fel y mae.
27 A wyt yn rhwym wrth wraig? Paid â cheisio dy ryddhau. A wyt yn rhydd oddi wrth wraig? Paid â cheisio gwraig.
28 Ond os priodi a wnei, ni fyddi wedi pechu. Ac os prioda gwyryf, ni fydd wedi pechu. Ond fe gaiff rhai felly flinder yn y bywyd hwn, ac am eich arbed yr wyf fi.
29 Hyn yr wyf yn ei ddweud, gyfeillion: y mae'r amser wedi mynd yn brin. Am yr hyn sydd ar ôl ohono, bydded i'r rhai sydd â gwragedd ganddynt fod fel pe baent heb wragedd,
30 a'r rhai sy'n wylo fel pe na baent yn wylo, a'r rhai sy'n llawenhau fel pe na baent yn llawenhau, a'r rhai sy'n prynu fel rhai heb feddu dim,
31 a'r rhai sy'n ymwneud â'r byd fel pe na baent yn ymwneud ag ef. Oherwydd mynd heibio y mae holl drefn y byd hwn.
32 Carwn ichwi fod heb ofalon. Y mae'r dyn dibriod yn gofalu am bethau'r Arglwydd, sut i foddhau'r Arglwydd.