1 Ynglŷn â bwyd sydd wedi ei aberthu i eilunod, y mae'n wir, fel y dywedwch, “fod gennym i gyd wybodaeth.” Y mae “gwybodaeth” yn peri i rywun ymchwyddo, ond y mae cariad yn adeiladu.
2 Os oes rhywun yn tybio iddo ddod i wybod rhywbeth, nid yw eto'n gwybod fel y dylai wybod.
3 Os oes rhywun yn caru Duw, y mae wedi ei adnabod gan Dduw.
4 Felly, ynglŷn â bwyta'r hyn sydd wedi ei aberthu i eilunod, gwyddom nad oes “dim eilun yn y cyfanfyd”, ac nad oes “dim Duw ond un”.
5 Oherwydd hyd yn oed os oes rhai a elwir yn dduwiau, naill ai yn y nef neu ar y ddaear—fel yn wir y mae “duwiau” lawer ac “arglwyddi” lawer—
6 eto, i ni, un Duw sydd—y Tad, ffynhonnell pob peth, a diben ein bod; ac un Arglwydd Iesu Grist—cyfrwng pob peth, a chyfrwng ein bywyd ni.
7 Ond nid yw'r wybodaeth hon gan bawb. Y mae rhai, oherwydd eu bod hyd yma wedi arfer ag eilunod, yn dal i fwyta'r bwyd fel peth wedi ei aberthu i eilunod; ac y mae eu cydwybod, gan ei bod yn wan, yn cael ei llygru.