6 eto, i ni, un Duw sydd—y Tad, ffynhonnell pob peth, a diben ein bod; ac un Arglwydd Iesu Grist—cyfrwng pob peth, a chyfrwng ein bywyd ni.
7 Ond nid yw'r wybodaeth hon gan bawb. Y mae rhai, oherwydd eu bod hyd yma wedi arfer ag eilunod, yn dal i fwyta'r bwyd fel peth wedi ei aberthu i eilunod; ac y mae eu cydwybod, gan ei bod yn wan, yn cael ei llygru.
8 Nid bwyd sy'n mynd i'n cymeradwyo ni i Dduw. Nid ydym ar ein colled o beidio â bwyta, nac ar ein hennill o fwyta.
9 Ond gwyliwch rhag i'r hawl yma sydd gennych fod yn achos cwymp mewn unrhyw fodd i'r rhai gwan.
10 Oherwydd os bydd i rywun dy weld di, sy'n meddu ar “wybodaeth”, yn bwyta mewn teml eilunod, oni chadarnheir ei gydwybod, ac yntau'n wan, i fwyta pethau wedi eu haberthu i eilunod?
11 Felly, trwy dy “wybodaeth” di, fe ddinistrir yr un gwan, dy gydgredadun y bu Crist farw drosto.
12 Wrth bechu fel hyn yn erbyn eich cydgredinwyr, a chlwyfo'u cydwybod, a hithau'n wan, yr ydych yn pechu yn erbyn Crist.