1 Onid wyf fi'n rhydd? Onid wyf yn apostol? Onid wyf wedi gweld Iesu, ein Harglwydd? Onid fy ngwaith i ydych chwi yn yr Arglwydd?
2 Os nad wyf yn apostol i eraill, o leiaf yr wyf felly i chwi; oherwydd chwi yw sêl fy apostolaeth, yn yr Arglwydd.
3 Fy amddiffyniad i'r rhai sy'n eistedd mewn barn arnaf yw hyn:
4 onid oes gennym hawl i fwyta ac yfed?