20 I'r Iddewon, euthum fel Iddew, er mwyn ennill Iddewon. I'r rhai sydd dan y Gyfraith, fel un ohonynt hwy—er nad wyf fy hunan dan y Gyfraith—er mwyn ennill y rhai sydd dan y Gyfraith.
21 I'r rhai sydd heb y Gyfraith, fel un ohonynt hwythau—er nad wyf heb Gyfraith Duw, gan fy mod dan Gyfraith Crist—er mwyn ennill y rhai sydd heb y Gyfraith.
22 I'r gweiniaid, euthum yn wan, er mwyn ennill y gweiniaid. Yr wyf wedi mynd yn bob peth i bawb, er mwyn imi, mewn rhyw fodd neu'i gilydd, achub rhai.
23 Dros yr Efengyl yr wyf yn gwneud pob peth, er mwyn i mi gael cydgyfranogi ynddi.
24 Oni wyddoch am y rhai sy'n rhedeg mewn ras, eu bod i gyd yn rhedeg, ond mai un sy'n derbyn y wobr? Felly, rhedwch i ennill.
25 Y mae pob mabolgampwr yn arfer hunanreolaeth ym mhopeth; y maent hwy, yn wir, yn gwneud hynny er mwyn ennill torch lygradwy, ond y mae i ni un sy'n anllygradwy.
26 Yr wyf fi, gan hynny, yn rhedeg fel un sydd â'r nod yn sicr o'i flaen. Yr wyf yn cwffio, nid fel un sy'n curo'r awyr â'i ddyrnau.