3 Fy amddiffyniad i'r rhai sy'n eistedd mewn barn arnaf yw hyn:
4 onid oes gennym hawl i fwyta ac yfed?
5 Onid oes gennym hawl i fynd â gwraig sy'n Gristion o gwmpas gyda ni, fel y gwna'r apostolion eraill, a brodyr yr Arglwydd, a Ceffas?
6 Neu ai myfi a Barnabas yn unig sydd heb yr hawl i beidio â gweithio i ennill ein bywoliaeth?
7 Pwy fyddai byth yn rhoi gwasanaeth milwr ar ei draul ei hun? Pwy sy'n plannu gwinllan heb fwyta o'r ffrwyth? Pwy sy'n bugeilio praidd heb yfed o'r llaeth?
8 Ai ar awdurdod dynol yr wyf yn dweud hyn? Onid yw'r Gyfraith hefyd yn ei ddweud?
9 Oherwydd yng Nghyfraith Moses y mae'n ysgrifenedig: “Nid wyt i roi genfa am safn ych tra bydd yn dyrnu.” Ai am ychen y mae gofal Duw?