6 Neu ai myfi a Barnabas yn unig sydd heb yr hawl i beidio â gweithio i ennill ein bywoliaeth?
7 Pwy fyddai byth yn rhoi gwasanaeth milwr ar ei draul ei hun? Pwy sy'n plannu gwinllan heb fwyta o'r ffrwyth? Pwy sy'n bugeilio praidd heb yfed o'r llaeth?
8 Ai ar awdurdod dynol yr wyf yn dweud hyn? Onid yw'r Gyfraith hefyd yn ei ddweud?
9 Oherwydd yng Nghyfraith Moses y mae'n ysgrifenedig: “Nid wyt i roi genfa am safn ych tra bydd yn dyrnu.” Ai am ychen y mae gofal Duw?
10 Onid yw'n eglur mai er ein mwyn ni y mae'n ei ddweud? Ie, er ein mwyn ni yr ysgrifennwyd ef, oherwydd dylai'r arddwr aredig, a'r dyrnwr ddyrnu, mewn gobaith am gael cyfran o'r cnwd.
11 Os ydym ni wedi hau had ysbrydol er eich lles chwi, a yw'n ormod inni fedi cnwd materol ar eich traul chwi?
12 Os oes gan eraill ran yn yr hawl hon arnoch, oni ddylem ni fod â mwy?Ond nid ydym wedi arfer yr hawl hon; yn hytrach, yr ydym yn goddef pob peth, rhag inni osod unrhyw rwystr ar ffordd Efengyl Crist.