1 Paid â cheryddu hynafgwr, ond ei gymell fel petai'n dad i ti, y dynion ifainc fel brodyr,
2 y gwragedd hŷn fel mamau, a'r merched ifainc â phurdeb llwyr fel chwiorydd.
3 Cydnabydda'r gweddwon, y rheini sy'n weddwon mewn gwirionedd.
4 Ond os oes gan y weddw blant neu wyrion, dylai'r rheini yn gyntaf ddysgu ymarfer eu crefydd tuag at eu teulu, a thalu'n ôl i'w rhieni y ddyled sydd arnynt, oherwydd hynny sy'n gymeradwy gan Dduw.
5 Ond am yr un sy'n weddw mewn gwirionedd, yr un sydd wedi ei gadael ar ei phen ei hun, y mae hon â'i gobaith wedi ei sefydlu ar Dduw, ac y mae'n parhau nos a dydd mewn ymbiliau a gweddïau.
6 Y mae'r weddw afradlon, ar y llaw arall, gystal â marw er ei bod yn fyw.