1 Timotheus 6 BCN

1 Y mae'r rhai sy'n gaethweision dan yr iau i gyfrif eu meistri eu hunain yn deilwng o wir barch, fel na chaiff enw Duw, na'r athrawiaeth Gristionogol, air drwg.

2 Ac ni ddylai'r rhai sydd â'u meistri'n gredinwyr roi llai o barch iddynt am eu bod yn gydgredinwyr. Yn hytrach, dylent roi gwell gwasanaeth iddynt am mai credinwyr sy'n annwyl ganddynt yw'r rhai fydd yn elwa ar eu hymroddiad.Dyma'r pethau yr wyt ti i'w dysgu a'u cymell.

Crefydd ynghyd â Bodlonrwydd Mewnol

3 Os bydd rhywun yn dysgu'n groes i hyn, ac yn gwrthod glynu wrth eiriau iachusol, geiriau ein Harglwydd Iesu Grist, ac wrth athrawiaeth sy'n gyson â bywyd duwiol,

4 y mae hwnnw'n llawn balchder, heb ddeall dim, ag awydd afiach ynddo i godi cwestiynau a dadlau am eiriau. Cenfigen a chynnen ac enllib, a drwgdybio cywilyddus ac anghydweld parhaus, sy'n dod o bethau felly,

5 mewn pobl sydd â'u meddyliau wedi eu llygru ac sydd wedi eu hamddifadu o'r gwirionedd, rhai sy'n tybio mai modd i ennill cyfoeth yw bywyd duwiol.

6 Ac wrth gwrs, y mae cyfoeth mawr mewn bywyd duwiol ynghyd â bodlonrwydd mewnol.

7 A'r ffaith yw, na ddaethom â dim i'r byd, ac felly hefyd na allwn fynd â dim allan ohono.

8 Os oes gennym fwyd a dillad, gadewch inni fodloni ar hynny.

9 Y mae'r rhai sydd am fod yn gyfoethog yn syrthio i demtasiynau a maglau, a llu o chwantau direswm a niweidiol, sy'n hyrddio pobl i lawr i ddistryw a cholledigaeth.

10 Oherwydd gwraidd pob math o ddrwg yw cariad at arian, ac wrth geisio cael gafael ynddo crwydrodd rhai oddi wrth y ffydd, a'u trywanu eu hunain ag arteithiau lawer.

Ymdrech Lew y Ffydd

11 Ond yr wyt ti, ŵr Duw, i ffoi rhag y pethau hyn, ac i roi dy fryd ar uniondeb, duwioldeb, ffydd, cariad, dyfalbarhad ac addfwynder.

12 Ymdrecha ymdrech lew y ffydd, a chymer feddiant o'r bywyd tragwyddol. I hyn y cefaist dy alw pan wnaethost dy gyffes lew o'r ffydd o flaen tystion lawer.

13 Yng ngŵydd Duw, sy'n rhoi bywyd i bob peth, ac yng ngŵydd Crist Iesu, a dystiodd i'r un gyffes lew o flaen Pontius Pilat, yr wyf yn dy gymell

14 i gadw'r gorchymyn yn ddi-fai a digerydd hyd at ymddangosiad ein Harglwydd Iesu Grist,

15 a amlygir yn ei amser addas gan yr unig Bennaeth bendigedig, Brenin y brenhinoedd, Arglwydd yr arglwyddi.

16 Ganddo ef yn unig y mae anfarwoldeb, ac mewn goleuni anhygyrch y mae'n preswylio. Nid oes neb wedi ei weld, ac ni ddichon neb ei weld. Iddo Ef y byddo anrhydedd a gallu tragwyddol! Amen.

17 Gorchymyn di i gyfoethogion y byd presennol beidio â bod yn falch, ac iddynt sefydlu eu gobaith, nid ar ansicrwydd cyfoeth ond ar y Duw sy'n rhoi inni yn helaeth bob peth i'w fwynhau.

18 Annog hwy i wneud daioni, i fod yn gyfoethog mewn gweithredoedd da, i fod yn hael ac yn barod i rannu,

19 ac felly i gael trysor iddynt eu hunain fydd yn sylfaen sicr ar gyfer y dyfodol, i feddiannu'r bywyd sydd yn fywyd yn wir.

20 Timotheus, cadw'n ddiogel yr hyn a ymddiriedwyd i'th ofal, a thro dy gefn ar y gwag siarad bydol, a'r gwrthddywediadau a gamenwir yn wybodaeth.

21 Y mae rhai sy'n proffesu'r wybodaeth hon wedi gwyro ymhell oddi wrth y ffydd.Gras fyddo gyda chwi!

Penodau

1 2 3 4 5 6