12 a chânt eu condemnio felly am dorri'r adduned a wnaethant ar y dechrau.
13 At hynny, byddant yn dysgu bod yn ddiog wrth fynd o gwmpas y tai, ac nid yn unig yn ddiog ond hefyd yn siaradus a busneslyd, yn dweud pethau na ddylid.
14 Fy nymuniad, felly, yw bod gweddwon iau yn priodi, yn magu plant ac yn cadw tŷ, a pheidio â rhoi cyfle i unrhyw elyn i'n difenwi.
15 Oherwydd y mae rhai gweddwon eisoes wedi mynd ar gyfeiliorn a chanlyn Satan.
16 Dylai unrhyw wraig sy'n gredadun, a chanddi weddwon yn y teulu, ofalu amdanynt. Nid yw'r gynulleidfa i ddwyn y baich mewn achos felly, er mwyn iddynt allu gofalu am y rhai sy'n weddwon mewn gwirionedd.
17 Y mae'r henuriaid sy'n arweinwyr da yn haeddu cael dwbl y gydnabyddiaeth, yn arbennig y rhai sydd yn llafurio ym myd pregethu a hyfforddi.
18 Oherwydd y mae'r Ysgrythur yn dweud: “Nid wyt i roi genfa am safn ych tra bydd yn dyrnu”, a hefyd: “Y mae'r gweithiwr yn haeddu ei gyflog.”