19 Dyma dystiolaeth Ioan, pan anfonodd yr Iddewon o Jerwsalem offeiriaid a Lefiaid ato i ofyn iddo, “Pwy wyt ti?”
20 Addefodd ac ni wadodd, a dyma a addefodd: “Nid myfi yw'r Meseia.”
21 Yna gofynasant iddo: “Beth, ynteu? Ai ti yw Elias?” “Nage,” meddai. “Ai ti yw'r Proffwyd?” “Nage,” atebodd eto.
22 Ar hynny dywedasant wrtho, “Pwy wyt ti? Rhaid i ni roi ateb i'r rhai a'n hanfonodd ni. Beth sydd gennyt i'w ddweud amdanat dy hun?”
23 “Myfi,” meddai, “yw“ ‘Llais un yn galw yn yr anialwch:“Unionwch ffordd yr Arglwydd” ’—“fel y dywedodd y proffwyd Eseia.”
24 Yr oeddent wedi eu hanfon gan y Phariseaid,
25 a holasant ef a gofyn iddo, “Pam, ynteu, yr wyt yn bedyddio, os nad wyt ti na'r Meseia nac Elias na'r Proffwyd?”