Ioan 8 BCN

Iesu, Goleuni'r Byd

12 Yna llefarodd Iesu wrthynt eto. “Myfi yw goleuni'r byd,” meddai. “Ni bydd neb sy'n fy nghanlyn i byth yn rhodio yn y tywyllwch, ond bydd ganddo oleuni'r bywyd.”

13 Meddai'r Phariseaid wrtho, “Tystiolaethu amdanat dy hun yr wyt ti; nid yw dy dystiolaeth yn wir.”

14 Atebodd Iesu hwy, “Er mai myfi sydd yn tystiolaethu amdanaf fy hun, y mae fy nhystiolaeth yn wir am fy mod yn gwybod o ble y deuthum ac i ble'r wyf yn mynd. Ond ni wyddoch chwi o ble'r wyf yn dod nac i ble'r wyf yn mynd.

15 Yr ydych chwi'n barnu yn ôl safonau dynol. Minnau, nid wyf yn barnu neb,

16 ac os byddaf yn barnu y mae'r farn a roddaf yn ddilys, oherwydd nid myfi yn unig sy'n barnu, ond myfi a'r Tad a'm hanfonodd i.

17 Y mae'n ysgrifenedig yn eich Cyfraith chwi fod tystiolaeth dau ddyn yn wir.

18 Myfi yw'r un sydd yn tystiolaethu amdanaf fy hun, ac y mae'r Tad a'm hanfonodd i hefyd yn tystiolaethu amdanaf.”

19 Yna meddent wrtho, “Ble mae dy Dad di?” Atebodd Iesu, “Nid ydych yn fy adnabod i na'm Tad; pe baech yn fy adnabod i, byddech yn adnabod fy Nhad hefyd.”

20 Llefarodd y geiriau hyn yn y trysordy, wrth ddysgu yn y deml. Ond ni afaelodd neb ynddo, oherwydd nid oedd ei awr wedi dod eto.

Lle'r Wyf Fi'n Mynd, Ni Allwch Chwi Ddod

21 Dywedodd wrthynt wedyn, “Yr wyf fi'n ymadael â chwi. Fe chwiliwch amdanaf fi, ond byddwch farw yn eich pechod. Lle'r wyf fi'n mynd, ni allwch chwi ddod.”

22 Meddai'r Iddewon felly, “A yw'n mynd i'w ladd ei hun, gan ei fod yn dweud, ‘Lle'r wyf fi'n mynd, ni allwch chwi ddod’?”

23 Meddai Iesu wrthynt, “Yr ydych chwi oddi isod, yr wyf fi oddi uchod. Yr ydych chwi o'r byd hwn, nid wyf fi o'r byd hwn.

24 Dyna pam y dywedais wrthych y byddwch farw yn eich pechodau; oherwydd marw yn eich pechodau a wnewch, os na chredwch mai myfi yw.”

25 Gofynasant iddo felly, “Pwy wyt ti?” Atebodd Iesu hwy, “Yr wyf o'r dechrau yr hyn yr wyf yn ei ddweud wrthych.

26 Gallwn ddweud llawer amdanoch, a hynny mewn barn. Ond y mae'r hwn a'm hanfonodd i yn eirwir, a'r hyn a glywais ganddo ef yw'r hyn yr wyf yn ei gyhoeddi i'r byd.”

27 Nid oeddent hwy'n deall mai am y Tad yr oedd yn llefaru wrthynt.

28 Felly dywedodd Iesu wrthynt, “Pan fyddwch wedi dyrchafu Mab y Dyn byddwch yn gwybod mai myfi yw, ac nad wyf yn gwneud dim ohonof fy hun, ond fy mod yn dweud yr union bethau y mae'r Tad wedi eu dysgu imi.

29 Ac y mae'r hwn a'm hanfonodd i gyda mi; nid yw wedi fy ngadael ar fy mhen fy hun, oherwydd yr wyf bob amser yn gwneud y pethau sydd wrth ei fodd ef.”

30 Wrth iddo ddweud hyn, daeth llawer i gredu ynddo.

Bydd y Gwirionedd yn eich Rhyddhau

31 Yna dywedodd Iesu wrth yr Iddewon oedd wedi credu ynddo, “Os arhoswch chwi yn fy ngair i, yr ydych mewn gwirionedd yn ddisgyblion i mi.

32 Cewch wybod y gwirionedd, a bydd y gwirionedd yn eich rhyddhau.”

33 Atebasant ef, “Plant Abraham ydym ni, ac ni buom erioed yn gaethweision i neb. Sut y gelli di ddweud, ‘Fe'ch gwneir yn rhyddion’?”

34 Atebodd Iesu hwy, “Yn wir, yn wir, rwy'n dweud wrthych fod pob un sy'n cyflawni pechod yn gaethwas i bechod.

35 Ac nid oes gan y caethwas le arhosol yn y tŷ, ond y mae'r mab yn aros am byth.

36 Felly os yw'r Mab yn eich rhyddhau chwi, byddwch yn rhydd mewn gwirionedd.

37 Rwy'n gwybod mai plant Abraham ydych. Ond yr ydych yn ceisio fy lladd i am nad yw fy ngair i yn cael lle ynoch.

38 Yr wyf fi'n siarad am y pethau yr wyf wedi eu gweld gyda'm Tad, ac yr ydych chwi'n gwneud y pethau a glywsoch gan eich tad.”

Eich Tad y Diafol

39 Atebasant ef, “Abraham yw ein tad ni.” Meddai Iesu wrthynt, “Pe baech yn blant i Abraham, byddech yn gwneud yr un gweithredoedd ag Abraham.

40 Ond dyma chwi yn awr yn ceisio fy lladd i, dyn sydd wedi llefaru wrthych y gwirionedd a glywais gan Dduw. Ni wnaeth Abraham mo hynny.

41 Gwneud gweithredoedd eich tad eich hunain yr ydych chwi.” “Nid plant puteindra mohonom ni,” meddent wrtho. “Un Tad sydd gennym, sef Duw.”

42 Meddai Iesu wrthynt, “Petai Duw yn dad i chwi, byddech yn fy ngharu i, oherwydd oddi wrth Dduw y deuthum allan a dod yma. Nid wyf wedi dod ohonof fy hun, ond ef a'm hanfonodd.

43 Pam nad ydych yn deall yr hyn yr wyf yn ei ddweud? Am nad ydych yn gallu gwrando ar fy ngair i.

44 Plant ydych chwi i'ch tad, y diafol, ac yr ydych â'ch bryd ar gyflawni dymuniadau eich tad. Llofrudd oedd ef o'r cychwyn; nid yw'n sefyll yn y gwirionedd, oherwydd nid oes dim gwirionedd ynddo. Pan fydd yn dweud celwydd, datguddio'i natur ei hun y mae, oherwydd un celwyddog yw ef, a thad pob celwydd.

45 Ond yr wyf fi'n dweud y gwirionedd, ac am hynny nid ydych yn fy nghredu.

46 Pwy ohonoch chwi sydd am brofi fy mod i'n euog o bechod? Os wyf yn dweud y gwir, pam nad ydych chwi yn fy nghredu?

47 Y mae'r sawl sydd o Dduw yn gwrando geiriau Duw. Nid ydych chwi o Dduw, a dyna pam nad ydych yn gwrando.”

Cyn Geni Abraham, yr Wyf Fi

48 Atebodd yr Iddewon ef, “Onid ydym ni'n iawn wrth ddweud, ‘Samariad wyt ti, ac y mae cythraul ynot’?”

49 Atebodd Iesu, “Nid oes cythraul ynof; parchu fy Nhad yr wyf fi, a chwithau'n fy amharchu i.

50 Nid wyf fi'n ceisio fy ngogoniant fy hun, ond y mae un sydd yn ei geisio, ac ef sy'n barnu.

51 Yn wir, yn wir, rwy'n dweud wrthych, os bydd rhywun yn cadw fy ngair i, ni wêl farwolaeth byth.”

52 Meddai'r Iddewon wrtho, “Yr ydym yn gwybod yn awr fod cythraul ynot. Bu Abraham farw, a'r proffwydi hefyd, a dyma ti'n dweud, ‘Os bydd rhywun yn cadw fy ngair i, ni chaiff brofi blas marwolaeth byth.’

53 A wyt ti'n fwy na'n tad ni, Abraham? Bu ef farw, a bu'r proffwydi farw. Pwy yr wyt ti'n dy gyfrif dy hun?”

54 Atebodd Iesu, “Os fy ngogoneddu fy hun yr wyf fi, nid yw fy ngogoniant yn ddim. Fy Nhad sydd yn fy ngogoneddu, yr un yr ydych chwi'n dweud amdano, ‘Ef yw ein Duw ni.’

55 Nid ydych yn ei adnabod, ond yr wyf fi'n ei adnabod. Pe bawn yn dweud nad wyf yn ei adnabod, byddwn yn gelwyddog fel chwithau. Ond yr wyf yn ei adnabod, ac yr wyf yn cadw ei air ef.

56 Gorfoleddu a wnaeth eich tad Abraham o weld fy nydd i; fe'i gwelodd, a llawenhau.”

57 Yna meddai'r Iddewon wrtho, “Nid wyt ti'n hanner cant oed eto. A wyt ti wedi gweld Abraham?”

58 Dywedodd Iesu wrthynt, “Yn wir, yn wir, rwy'n dweud wrthych, cyn geni Abraham, yr wyf fi.”

59 Yna codasant gerrig i'w taflu ato. Ond aeth Iesu o'u golwg, ac allan o'r deml.

Penodau

1 2 3 4 5 6 7 8 9 10 11 12 13 14 15 16 17 18 19 20 21