1 Pan ddeallodd Iesu fod y Phariseaid wedi clywed ei fod ef yn ennill ac yn bedyddio mwy o ddisgyblion nag Ioan
2 (er nad Iesu ei hun, ond ei ddisgyblion, fyddai'n bedyddio),
3 gadawodd Jwdea ac aeth yn ôl i Galilea.
4 Ac yr oedd yn rhaid iddo fynd trwy Samaria.
5 Felly daeth i dref yn Samaria o'r enw Sychar, yn agos i'r darn tir a roddodd Jacob i'w fab Joseff.
6 Yno yr oedd ffynnon Jacob, a chan fod Iesu wedi blino ar ôl ei daith eisteddodd i lawr wrth y ffynnon. Yr oedd hi tua hanner dydd.
7 Dyma wraig o Samaria yn dod yno i dynnu dŵr. Meddai Iesu wrthi, “Rho i mi beth i'w yfed.”
8 Yr oedd ei ddisgyblion wedi mynd i'r dref i brynu bwyd.
9 A dyma'r wraig o Samaria yn dweud wrtho, “Sut yr wyt ti, a thithau'n Iddew, yn gofyn am rywbeth i'w yfed gennyf fi, a minnau'n wraig o Samaria?” (Wrth gwrs, ni bydd yr Iddewon yn rhannu'r un llestri â'r Samariaid.)
10 Atebodd Iesu hi, “Pe bait yn gwybod beth yw rhodd Duw, a phwy sy'n gofyn iti, ‘Rho i mi beth i'w yfed’, ti fyddai wedi gofyn iddo ef a byddai ef wedi rhoi i ti ddŵr bywiol.”
11 “Syr,” meddai'r wraig wrtho, “nid oes gennyt ddim i dynnu dŵr, ac y mae'r pydew'n ddwfn. O ble, felly, y mae gennyt y ‘dŵr bywiol’ yma?
12 A wyt ti'n fwy na Jacob, ein tad ni, a roddodd y pydew inni, ac a yfodd ohono, ef ei hun a'i feibion a'i anifeiliaid?”
13 Atebodd Iesu hi, “Bydd pawb sy'n yfed o'r dŵr hwn yn profi syched eto;
14 ond pwy bynnag sy'n yfed o'r dŵr a roddaf fi iddo, ni bydd arno syched byth. Bydd y dŵr a roddaf iddo yn troi yn ffynnon o ddŵr o'i fewn, yn ffrydio i fywyd tragwyddol.”
15 “Syr,” meddai'r wraig wrtho, “rho'r dŵr hwn i mi, i'm cadw rhag sychedu a dal i ddod yma i dynnu dŵr.”
16 Dywedodd Iesu wrthi, “Dos adref, galw dy ŵr a thyrd yn ôl yma.”
17 “Nid oes gennyf ŵr,” atebodd y wraig. Meddai Iesu wrthi, “Dywedaist y gwir wrth ddweud, ‘Nid oes gennyf ŵr.’
18 Oherwydd fe gefaist bump o wŷr, ac nid gŵr i ti yw'r dyn sydd gennyt yn awr. Yr wyt wedi dweud y gwir am hyn.”
19 “Syr,” meddai'r wraig wrtho, “rwy'n gweld dy fod ti'n broffwyd.
20 Yr oedd ein hynafiaid yn addoli ar y mynydd hwn. Ond yr ydych chwi'r Iddewon yn dweud mai yn Jerwsalem y mae'r man lle dylid addoli.”
21 “Cred fi, wraig,” meddai Iesu wrthi, “y mae amser yn dod pan na fyddwch yn addoli'r Tad nac ar y mynydd hwn nac yn Jerwsalem.
22 Yr ydych chwi'r Samariaid yn addoli heb wybod beth yr ydych yn ei addoli. Yr ydym ni'n gwybod beth yr ydym yn ei addoli, oherwydd oddi wrth yr Iddewon y mae iachawdwriaeth yn dod.
23 Ond y mae amser yn dod, yn wir y mae yma eisoes, pan fydd y gwir addolwyr yn addoli'r Tad mewn ysbryd a gwirionedd, oherwydd rhai felly y mae'r Tad yn eu ceisio i fod yn addolwyr iddo.
24 Ysbryd yw Duw, a rhaid i'w addolwyr ef addoli mewn ysbryd a gwirionedd.”
25 Meddai'r wraig wrtho, “Mi wn fod y Meseia” (ystyr hyn yw Crist) “yn dod. Pan ddaw ef, bydd yn mynegi i ni bob peth.”
26 Dywedodd Iesu wrthi, “Myfi yw, sef yr un sy'n siarad â thi.”
27 Ar hyn daeth ei ddisgyblion yn ôl. Yr oeddent yn synnu ei fod yn siarad â gwraig, ac eto ni ofynnodd neb, “Beth wyt ti'n ei geisio?” neu “Pam yr wyt yn siarad â hi?”
28 Gadawodd y wraig ei hystên ac aeth i ffwrdd i'r dref, ac meddai wrth y bobl yno,
29 “Dewch i weld dyn a ddywedodd wrthyf bopeth yr wyf wedi ei wneud. A yw'n bosibl mai hwn yw'r Meseia?”
30 Daethant allan o'r dref a chychwyn tuag ato ef.
31 Yn y cyfamser yr oedd y disgyblion yn ei gymell, gan ddweud, “Rabbi, cymer fwyd.”
32 Dywedodd ef wrthynt, “Y mae gennyf fi fwyd i'w fwyta na wyddoch chwi ddim amdano.”
33 Ar hynny, dechreuodd y disgyblion ofyn i'w gilydd, “A oes rhywun, tybed, wedi dod â bwyd iddo?”
34 Meddai Iesu wrthynt, “Fy mwyd i yw gwneud ewyllys yr hwn a'm hanfonodd, a gorffen y gwaith a roddodd i mi.
35 Oni fyddwch chwi'n dweud, ‘Pedwar mis eto, ac yna daw'r cynhaeaf’? Ond dyma fi'n dweud wrthych, codwch eich llygaid ac edrychwch ar y meysydd, oherwydd y maent yn wyn ac yn barod i'w cynaeafu.
36 Eisoes y mae'r medelwr yn derbyn ei dâl ac yn casglu ffrwyth i fywyd tragwyddol, ac felly bydd yr heuwr a'r medelwr yn cydlawenhau.
37 Yn hyn o beth y mae'r dywediad yn wir: ‘Y mae un yn hau ac un arall yn medi.’
38 Anfonais chwi i fedi cynhaeaf nad ydych wedi llafurio amdano. Eraill sydd wedi llafurio, a chwithau wedi cerdded i mewn i'w llafur.”
39 Daeth llawer o'r Samariaid o'r dref honno i gredu yn Iesu drwy air y wraig a dystiodd: “Dywedodd wrthyf bopeth yr wyf wedi ei wneud.”
40 Felly pan ddaeth y Samariaid hyn ato ef, gofynasant iddo aros gyda hwy; ac fe arhosodd yno am ddau ddiwrnod.
41 A daeth llawer mwy i gredu ynddo trwy ei air ei hun.
42 Meddent wrth y wraig, “Nid trwy'r hyn a ddywedaist ti yr ydym yn credu mwyach, oherwydd yr ydym wedi ei glywed drosom ein hunain, ac fe wyddom mai hwn yn wir yw Gwaredwr y byd.”
43 Ymhen y ddau ddiwrnod ymadawodd Iesu a mynd oddi yno i Galilea.
44 Oherwydd Iesu ei hun a dystiodd nad oes i broffwyd anrhydedd yn ei wlad ei hun.
45 Pan gyrhaeddodd Galilea croesawodd y Galileaid ef, oherwydd yr oeddent hwythau wedi bod yn yr ŵyl ac wedi gweld y cwbl a wnaeth ef yn Jerwsalem yn ystod yr ŵyl.
46 Daeth Iesu unwaith eto i Gana Galilea, lle'r oedd wedi troi'r dŵr yn win. Yr oedd rhyw swyddog i'r brenin â mab ganddo yn glaf yng Nghapernaum.
47 Pan glywodd hwn fod Iesu wedi dod i Galilea o Jwdea, aeth ato a gofyn iddo ddod i lawr i iacháu ei fab, oherwydd ei fod ar fin marw.
48 Dywedodd Iesu wrtho, “Heb ichwi weld arwyddion a rhyfeddodau, ni chredwch chwi byth.”
49 Meddai'r swyddog wrtho, “Tyrd i lawr, syr, cyn i'm plentyn farw.”
50 “Dos adref,” meddai Iesu wrtho, “y mae dy fab yn fyw.” Credodd y dyn y gair a ddywedodd Iesu wrtho, a chychwynnodd ar ei daith.
51 Pan oedd ar ei ffordd i lawr, daeth ei weision i'w gyfarfod a dweud bod ei fachgen yn fyw.
52 Holodd hwy felly am yr amser pan fu i'r bachgen droi ar wella, ac atebasant ef, “Am un o'r gloch brynhawn ddoe y gadawodd y dwymyn ef.”
53 Yna sylweddolodd y tad mai dyna'r union awr y dywedodd Iesu wrtho, “Y mae dy fab yn fyw.” Ac fe gredodd, ef a'i deulu i gyd.
54 Hwn felly oedd yr ail arwydd i Iesu ei wneud, wedi iddo ddod o Jwdea i Galilea.