24 Yr oeddent wedi eu hanfon gan y Phariseaid,
25 a holasant ef a gofyn iddo, “Pam, ynteu, yr wyt yn bedyddio, os nad wyt ti na'r Meseia nac Elias na'r Proffwyd?”
26 Atebodd Ioan hwy: “Yr wyf fi'n bedyddio â dŵr, ond y mae yn sefyll yn eich plith un nad ydych chwi'n ei adnabod,
27 yr un sy'n dod ar f'ôl i, nad wyf fi'n deilwng i ddatod carrai ei sandal.”
28 Digwyddodd hyn ym Methania, y tu hwnt i'r Iorddonen, lle'r oedd Ioan yn bedyddio.
29 Trannoeth gwelodd Iesu'n dod tuag ato, a dywedodd, “Dyma Oen Duw, sy'n cymryd ymaith bechod y byd!
30 Hwn yw'r un y dywedais i amdano, ‘Ar f'ôl i y mae gŵr yn dod sydd wedi fy mlaenori i, oherwydd yr oedd yn bod o'm blaen i.’