34 Yr wyf finnau wedi gweld ac wedi dwyn tystiolaeth mai Mab Duw yw hwn.”
35 Trannoeth yr oedd Ioan yn sefyll eto gyda dau o'i ddisgyblion,
36 ac wrth wylio Iesu'n cerdded heibio meddai, “Dyma Oen Duw!”
37 Clywodd ei ddau ddisgybl ef yn dweud hyn, ac aethant i ganlyn Iesu.
38 Troes Iesu, ac wrth eu gweld yn canlyn, dywedodd wrthynt, “Beth yr ydych yn ei geisio?” Dywedasant wrtho, “Rabbi,” (ystyr hyn, o'i gyfieithu, yw Athro) “ble'r wyt ti'n aros?”
39 Dywedodd wrthynt, “Dewch i weld.” Felly aethant a gweld lle'r oedd yn aros; a'r diwrnod hwnnw arosasant gydag ef. Yr oedd hi tua phedwar o'r gloch y prynhawn.
40 Andreas, brawd Simon Pedr, oedd un o'r ddau a aeth i ganlyn Iesu ar ôl gwrando ar Ioan.