5 Y mae'r goleuni yn llewyrchu yn y tywyllwch, ac nid yw'r tywyllwch wedi ei drechu ef.
6 Daeth dyn wedi ei anfon oddi wrth Dduw, a'i enw Ioan.
7 Daeth hwn yn dyst, i dystiolaethu am y goleuni, er mwyn i bawb ddod i gredu trwyddo.
8 Nid ef oedd y goleuni, ond daeth i dystiolaethu am y goleuni.
9 Yr oedd y gwir oleuni, sy'n goleuo pawb, eisoes yn dod i'r byd.
10 Yr oedd yn y byd, a daeth y byd i fod trwyddo, ac nid adnabu'r byd mohono.
11 Daeth i'w gynefin ei hun, ac ni dderbyniodd ei bobl ei hun mohono.