7 Daeth hwn yn dyst, i dystiolaethu am y goleuni, er mwyn i bawb ddod i gredu trwyddo.
8 Nid ef oedd y goleuni, ond daeth i dystiolaethu am y goleuni.
9 Yr oedd y gwir oleuni, sy'n goleuo pawb, eisoes yn dod i'r byd.
10 Yr oedd yn y byd, a daeth y byd i fod trwyddo, ac nid adnabu'r byd mohono.
11 Daeth i'w gynefin ei hun, ac ni dderbyniodd ei bobl ei hun mohono.
12 Ond cynifer ag a'i derbyniodd, rhoes iddynt hwy, y rhai sy'n credu yn ei enw, hawl i ddod yn blant Duw,
13 plant wedi eu geni nid o waed nac o ewyllys cnawd nac o ewyllys gŵr, ond o Dduw.