20 Pan glywodd Martha fod Iesu yn dod, aeth i'w gyfarfod; ond eisteddodd Mair yn y tŷ.
21 Dywedodd Martha wrth Iesu, “Pe buasit ti yma, syr, ni buasai fy mrawd wedi marw.
22 A hyd yn oed yn awr, mi wn y rhydd Duw i ti beth bynnag a ofynni ganddo.”
23 Dywedodd Iesu wrthi, “Fe atgyfoda dy frawd.”
24 “Mi wn,” meddai Martha wrtho, “y bydd yn atgyfodi yn yr atgyfodiad ar y dydd olaf.”
25 Dywedodd Iesu wrthi, “Myfi yw'r atgyfodiad a'r bywyd. Pwy bynnag sy'n credu ynof fi, er iddo farw, fe fydd byw;
26 a phob un sy'n byw ac yn credu ynof fi, ni bydd marw byth. A wyt ti'n credu hyn?”