32 A phan ddaeth Mair i'r fan lle'r oedd Iesu, a'i weld, syrthiodd wrth ei draed ac meddai wrtho, “Pe buasit ti yma, syr, ni buasai fy mrawd wedi marw.”
33 Wrth ei gweld hi'n wylo, a'r Iddewon oedd wedi dod gyda hi hwythau'n wylo, cynhyrfwyd ysbryd Iesu gan deimlad dwys.
34 “Ble'r ydych wedi ei roi i orwedd?” gofynnodd. “Tyrd i weld, syr,” meddant wrtho.
35 Torrodd Iesu i wylo.
36 Yna dywedodd yr Iddewon, “Gwelwch gymaint yr oedd yn ei garu ef.”
37 Ond dywedodd rhai ohonynt, “Oni allai hwn, a agorodd lygaid y dall, gadw'r dyn yma hefyd rhag marw?”
38 Dan deimlad dwys drachefn, daeth Iesu at y bedd. Ogof ydoedd, a maen yn gorwedd ar ei thraws.