37 Ond dywedodd rhai ohonynt, “Oni allai hwn, a agorodd lygaid y dall, gadw'r dyn yma hefyd rhag marw?”
38 Dan deimlad dwys drachefn, daeth Iesu at y bedd. Ogof ydoedd, a maen yn gorwedd ar ei thraws.
39 “Symudwch y maen,” meddai Iesu. A dyma Martha, chwaer y dyn oedd wedi marw, yn dweud wrtho, “Erbyn hyn, syr, y mae'n drewi; y mae yma ers pedwar diwrnod.”
40 “Oni ddywedais wrthyt,” meddai Iesu wrthi, “y cait weld gogoniant Duw, dim ond iti gredu?”
41 Felly symudasant y maen. A chododd Iesu ei lygaid i fyny a dweud, “O Dad, rwy'n diolch i ti am wrando arnaf.
42 Roeddwn i'n gwybod dy fod bob amser yn gwrando arnaf, ond dywedais hyn o achos y dyrfa sy'n sefyll o gwmpas, er mwyn iddynt gredu mai tydi a'm hanfonodd.”
43 Ac wedi dweud hyn, gwaeddodd â llais uchel, “Lasarus, tyrd allan.”