6 Ac wedi clywed ei fod ef yn wael, arhosodd am ddau ddiwrnod yn y fan lle'r oedd.
7 Ac wedyn, dywedodd wrth ei ddisgyblion, “Gadewch inni fynd yn ôl i Jwdea.”
8 “Rabbi,” meddai'r disgyblion wrtho, “gynnau yr oedd yr Iddewon yn ceisio dy labyddio. Sut y gelli fynd yn ôl yno?”
9 Atebodd Iesu: “Onid oes deuddeg awr mewn diwrnod? Os yw rhywun yn cerdded yng ngolau dydd, nid yw'n baglu, oherwydd y mae'n gweld golau'r byd hwn.
10 Ond os yw rhywun yn cerdded yn y nos, y mae'n baglu, am nad oes golau ganddo.”
11 Ar ôl dweud hyn meddai wrthynt, “Y mae ein cyfaill Lasarus yn huno, ond yr wyf yn mynd yno i'w ddeffro.”
12 Dywedodd y disgyblion wrtho, “Arglwydd, os yw'n huno fe gaiff ei wella.”