13 Beth bynnag a ofynnwch yn fy enw i, fe'i gwnaf, er mwyn i'r Tad gael ei ogoneddu yn y Mab.
14 Os gofynnwch unrhyw beth i mi yn fy enw i, fe'i gwnaf.
15 “Os ydych yn fy ngharu i, fe gadwch fy ngorchmynion i.
16 Ac fe ofynnaf finnau i'm Tad, ac fe rydd ef i chwi Eiriolwr arall i fod gyda chwi am byth,
17 Ysbryd y Gwirionedd. Ni all y byd ei dderbyn ef, am nad yw'r byd yn ei weld nac yn ei adnabod ef; yr ydych chwi yn ei adnabod, oherwydd gyda chwi y mae'n aros ac ynoch chwi y bydd.
18 Ni adawaf chwi'n amddifad; fe ddof yn ôl atoch chwi.
19 Ymhen ychydig amser, ni bydd y byd yn fy ngweld i ddim mwy, ond byddwch chwi'n fy ngweld, fy mod yn fyw; a byw fyddwch chwithau hefyd.