1 “Myfi yw'r wir winwydden, a'm Tad yw'r gwinllannwr.
2 Y mae ef yn torri i ffwrdd bob cangen ynof fi nad yw'n dwyn ffrwyth, ac yn glanhau pob un sydd yn dwyn ffrwyth, er mwyn iddi ddwyn mwy o ffrwyth.
3 Yr ydych chwi eisoes yn lân trwy'r gair yr wyf wedi ei lefaru wrthych.
4 Arhoswch ynof fi, a minnau ynoch chwi. Ni all y gangen ddwyn ffrwyth ohoni ei hun, heb iddi aros yn y winwydden; ac felly'n union ni allwch chwithau heb i chwi aros ynof fi.