16 Nid chwi a'm dewisodd i, ond myfi a'ch dewisodd chwi, a'ch penodi i fynd allan a dwyn ffrwyth, ffrwyth sy'n aros. Ac yna, fe rydd y Tad i chwi beth bynnag a ofynnwch ganddo yn fy enw i.
17 Dyma'r gorchymyn yr wyf yn ei roi i chwi: carwch eich gilydd.
18 “Os yw'r byd yn eich casáu chwi, fe wyddoch ei fod wedi fy nghasáu i o'ch blaen chwi.
19 Pe baech yn perthyn i'r byd, byddai'r byd yn caru'r eiddo'i hun. Ond gan nad ydych yn perthyn i'r byd, oherwydd i mi eich dewis chwi allan o'r byd, y mae'r byd yn eich casáu chwi.
20 Cofiwch y gair a ddywedais i wrthych: ‘Nid yw unrhyw was yn fwy na'i feistr.’ Os erlidiasant fi, fe'ch erlidiant chwithau; os cadwasant fy ngair i, fe gadwant yr eiddoch chwithau.
21 Fe wnânt hyn oll i chwi o achos fy enw i, am nad ydynt yn adnabod yr hwn a'm hanfonodd i.
22 Pe buaswn i heb ddod a llefaru wrthynt, ni buasai ganddynt bechod. Ond yn awr nid oes ganddynt esgus am eu pechod.