23 Y mae'r sawl sy'n fy nghasáu i yn casáu fy Nhad hefyd.
24 Pe na buaswn wedi gwneud gweithredoedd yn eu plith na wnaeth neb arall, ni buasai ganddynt bechod. Ond yn awr y maent wedi gweld, ac wedi casáu fy Nhad a minnau.
25 Ond rhaid oedd cyflawni'r gair sy'n ysgrifenedig yn eu Cyfraith hwy: ‘Y maent wedi fy nghasáu heb achos.’
26 “Pan ddaw'r Eiriolwr a anfonaf fi atoch oddi wrth y Tad, sef Ysbryd y Gwirionedd, sy'n dod oddi wrth y Tad, bydd ef yn tystiolaethu amdanaf fi.