1 “Yr wyf wedi dweud y pethau hyn wrthych i'ch cadw rhag cwympo.
2 Fe'ch torrant chwi allan o'r synagogau; yn wir y mae'r amser yn dod pan fydd pawb fydd yn eich lladd chwi yn meddwl ei fod yn offrymu gwasanaeth i Dduw.
3 Fe wnânt hyn am nad ydynt wedi adnabod na'r Tad na myfi.
4 Ond yr wyf wedi dweud y pethau hyn wrthych er mwyn ichwi gofio, pan ddaw'r amser iddynt ddigwydd, fy mod i wedi eu dweud wrthych.“Ni ddywedais hyn wrthych o'r dechrau, oherwydd yr oeddwn i gyda chwi.